MAE'N gyfnod gyffrous yn hanes drama yng Nghymru ar hyn o bryd gyda dau gwmni newydd yn ceisio creu theatr genedlaethol i'r wlad.
Yn Saesneg mae gyda ni y Wales Theatre Company o dan y cyfarwyddwr byd-enwog Michael Bogdanov ac yn Gymraeg mae'r Theatr Genedlaethol Cymru yn gwneud ei marc.
Bydd cyfle i weld cynhyrchiad diweddaraf TGC - a'r tro cyntaf i glasur Shakespeare Romeo a Juliet gael ei lwyfannu yn Gymraeg yn broffesiynol - pan ddaw'r cwmni i Theatr Mwldan, Aberteifi, yr wythnos nesaf.
Bydd llawer o bobl yn cofio'r cyfarwyddwr artistig Cefin Roberts o'i ddyddiau actio gyda Theatr Cymru Gwynedd yn y 1980au - ymgais arall i greu rhyw fath o theatr genedlaethol yn Gymraeg.
Ac ar l llwyddiant cynhyrchiad cynta'r cwmni, gwaith modern Yn Debyg Iawn i Ti a Fi gan Meic Povey, dyw Cefin ddim yn ymddiheuro am fynd at glasuron yr iaith fain am yr ail un.
Cafodd Romeo and Juliet ei chyfieithu gan y diweddar J T Jones, a addasodd bump o ddramau gan fardd enwocaf Prydain yn cynnwys Hamlet, Twelfth Night, The Merchant of Venice ac As You Like It.
"Roedd J T Jones yn credu mai proses greadigol ynddi ei hun oedd cyfieithu, a chanlyniad y gred yma oedd addasiadau llwyddiannus dros ben o rai o gampweithiau barddoniaeth a rhyddiaith mwyaf coeth yr iaith Saesneg," meddai Cefin.
"Heb os, campwaith yw Romeo a Juliet sydd ag apl dragwyddol, a gellir dadlau mai dyma'r stori serch orau i gael ei sgrifennu erioed."
wl modd - i gyfryngau eraill fel ffilm a sioe gerddorol yn ogystal ag i ieithoedd eraill. Ac yn l un o'r actorion yn y cwmni mae'r cyfieithiad weithiau hyd yn oed yn well na'r gwreiddiol.
"Roedd braidd yn od i'r glust yn y lle cyntaf," meddai Huw Davies, sy'n cymryd pedair rhan yn cynnwys tad Romeo. "Ond mae'r trosiad gan J T Jones yn arbennig. Mae'n beth mawr i'w ddweud ond weithiau mae'na hyd yn oed esiamplau lle mae'r cyfieithu yn gwella ar y gwreiddiol."
Mae perfformio'r clasuron hefyd gofynion arbennig i actorion, a rhan bwysig o waith TGC yw cynnal gweithdai i actorion lleol i roi cyfle iddyn nhw feistroli rhai o'r sgiliau sydd eu heisiau.
Mae'r cwmni yn cael ei gefnogi yn ariannol gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyda'i gartref ar hyn o bryd yn Llanelli, a'r bwriad o symud i Gaerfyrddin i adeilad newydd y flwyddyn nesaf. Bydd Romeo a Juliet yn Theatr Mwldan o Dachwedd 9-11. Tocynnau ar 01239 621200.
In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.
Cyfarwyddwr - director Cynhyrchiad - production Llwyfannu - to stage Ymddiheuro - to apologise Iaith fain - English Addasu - to adapt Campwaith - masterpiece Canlyniad - result Coeth - refined Tragwyddol - timeless Cyfryngau - media Trosiad - translation Mesitrioli - to master Bwriad - intention
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules hereComments are closed on this article