BETH bynnag fydd canlyniad yr etholiad yfory, mae'n eithaf sicr dyma un o'r gornestau mwya di-liw a di-gyffro ers amser maith.

A gydag angladd Gwynfor Evans yn fyw yn y cof mae'n deg gofyn a welwn ni byth eto etholiadau mor gyffrous rhai Caerfyrddin nl yn y 60au a'r 70au - adeg pan welwyd Plaid Cymru gipio ei sedd seneddol gyntaf yn 1966, ei cholli hi eto, ffaelu ei hennill nl o dair pleidlais yn unig, cyn iddyn nhw gymryd y sedd nl eto yn 1974.

Wel mewn gwleidyddiaeth does dim byd yn sicr, ond does dim dwywaith mai un o gewri y ganrif ddiwethaf oedd Gwynfor - heddychwr, Cymro i'r carn, dyn efallai yn nhraddodiad un o enwogion ein sir ni, Waldo Williams.

Ac am unwaith roedd e'n braf gweld gwleidyddwyr o bob lliw yn talu teyrnged mor ddidwyll iddo.

Yn amserol iawn, wrth edrych ar gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru sy'n dod i Aberteifi yr wythnos nesaf, dyma ddrama fyddai wedi apelio yn fawr at athroniaeth Gwynfor Evans.

Achos yn syml iawn Ty ar y Tywod yw stori y dyn bach yn erbyn y dyn mawr.

Mae'r campwaith gan y diweddar Gwenlyn Parry wedi cael ei gymharu gwaith swreal ac abswrd dramodwyr fel Harold Pinter ac Eugene Ionesco.

Stori am ddau ddyn yw Ty ar y Tywod yn y bn. Mae un yn byw mewn cwt ar y traeth a'r llall yn berchennog ffair gerllaw. Mae Dyn Y Ffair eisiau ehangu ei ffair swnllyd a llwyddiannus ond torrir ar ei gynlluniau gan Ddyn y Ty sy'n benderfynol o warchod ei gartref doed a ddl er bod hwnnw'n suddo i'r tywod.

"Mae'r ddrama'n canolbwyntio ar y gwrthdaro sy'n deillio pan y mae hen ffordd o fyw traddodiadol, er yn brysur ddiflannu, yn cael ei fygwth gan ddatblygiadau newydd , modern a bas," meddai rheolwr marchnata y cwmni Elwyn Williams.

"Nid yw Ty ar y Tywod wedi'i cyfyngu i unrhyw amser neu leoliad penodol ac er bod 35 mlynedd ers y perfformiad cyntaf mae neges gignoeth y ddrama mor berthnasol heddiw ag y bu erioed."

Fel cynhyrchydd drama gyda BBC Cymru defnyddiodd Gwenlyn Parry, a fu farw ym 1991, ei dalentau mewn myrdd o wahanol arddulliau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Cyd-ysgrifennodd y gomedi deledu bytholwyrdd Fo a Fe, ac aeth yn ei flaen i lansio, ysgrifennu a chynhyrchu Pobol y Cwm. Gwenlyn Parry hefyd ysgrifennodd y gomedi deledu fythgofiadwy, Grand Slam.

Mae'r ddrama i'w gweld yn Theatr Mwldan ar Fai 13 a 14.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners.

Etholiad - election Gornest - battle Pleidlais - vote Cewri - giants I'r carn - to the bone Teyrnged - tribute Didwyll - sincere Athroniaeth - philosophy Campwaith - masterpiece Doed a ddl - come what may Cyfyngu - to restrict Cignoeth - raw