EFALLAI ei bod hi'n swnio'n beth od i'w ddweud - ond rhywbeth ych chi'n ei siarad ydy iaith.

Ac wrth i ddosbarthiadau nos a gwersi Cymraeg ddod i ben yn nhymor yr haf, mae'n werth meddwl am syniadau i gadw'r Gymraeg yn fyw yn y cof tan fis Medi.

Nid Lladin mo'r Gymraeg, nid iaith farw. I fi mae iaith yn fodd i agor drysau newydd. Mae teithio dramor yn wych ac dwi'n siwr bydd llawer yn mwynhau'r profiad dros yr haf - ond mae'na ddiwylliant a ffordd o fyw ar ein stepyn drws sydd ar gau i'r di-Gymraeg. A dyw e ddim yn costu llawer i'w ddarganfod.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhedeg cyfres o deithiau cerdded ar y cyd gyda Cymdeithas y Dysgwyr i fynd dysgwyr mas ar lwybr yr arfordir mewn ffordd hollol naturiol.

Mae'n cyflwyno'r grwp i eirfa newydd wrth iddyn nhw drafod y planhigion a'r bywyd gwyllt a phrydferthwch natur. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddysgwyr cwrdd phobl newydd a chymdeithasu.

Mae nifer o Gymry Cymraeg hefyd yn cymryd rhan ac mae'na le i bob safon o ddysgwr. Beth amdani te? Agorwch y drysau'na, cymerwch dipyn bach o ymarfer corff, siaradwch yr iaith ych chi'n ei dysgu a mwynheuwch wyliau heb fynd mas o'r sir.

Mae'r daith gerdded nesaf i ddysgwyr yn cymryd lle ar Fehefin 8, yn cwrdd am 7yh ym Mhorthgain am dro bach i Abereiddi.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch Steve Jones o CYD, e-bost stevejones7@lineone.net neu Philip Lees o'r Parc Cenedlaethol, philipl@pembrokeshire-coast.org.uk

WRTH gwrs, os nad ych chi hyd yn oed yn moyn symud o'ch cadair, cewch wrando ar y Gymraeg wrth ymweld bob munud o Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, tan ddydd Sadwrn yr wythnos yma.

Mae cwmni teledu Opus TF, sy'n arbenigo mewn darllediadau byw, yn paratoi darllediadau di-dor o gynnwrf prifwyl ieuenctid mwyaf Ewrop ar gyfer S4C.

Am y tro cyntaf eleni mae ail sianel ddigidol S4C - S4C2 - hefyd yn darlledu o'r Eisteddfod.

Ar S4C, Nia Roberts sydd yn y gadair yn llywio'r rhaglenni bob prynhawn tra bod llais Nia Ceidiog i'w glywed yn sylwebu ar y cystadlaethau a'r prif seremonau o'r pafiliwn.

Draw ar S4C digidol, bydd Alwyn Humphreys yn cyflwyno oriau o gystadlu brwd yn fyw o'r llwyfan bob dydd o ganol bore hyd ddiwedd yr Eisteddfod am chwech bob nos.

Bydd modd hefyd dilyn holl arlwy S4C digidol drwy gyfrwng y gweddarlledu ar wefannau S4C - s4c.co.uk/urdd neu urdd.org.

In our Welsh language column Gyda llaw (By the Way) Eifion Jenkins provides a list of words to assist Welsh learners:

Darganfod - to discover Arfordir - coast Arbenigo - to specialise Darllediadau - broadcasts Di-dor - continuous Cynnwrf - excitement Llywio - to steer Sylwebu - to commentate Brwd - keen Arlwy - feast Gweddarlledu - web-broadcast