Trydan

Llŷr Floating Wind Ltd

DEDDF TRYDAN (1989)

Rheoliadau Gwaith Trydan (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017

Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019

FFERM WYNT ALLTRAETH ARNOFIOL LLŶR 1

Hysbysir drwy hyn fod Llŷr Floating Wind Ltd (yr Ymgeisydd), rhif cofrestru’r cwmni SC608546, gyda Swyddfa Gofrestredig yng The Boathouse, Hawkcraig Road, Aberdour, KY3 0TZ wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan Adran 36 o Ddeddf Trydan 1989, i adeiladu a gweithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth, gyda chaniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer y seilwaith trawsyrru cysylltiedig ar y tir o dan adran 90(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mae’r cais yn ymwneud ag adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw Fferm Wynt Alltraeth Arnofiol Llŷr 1 (y prosiect arfaethedig), datblygu hyd at 10 generadur tyrbin gwynt arnofiol gyda blaen llafn pob un ohonynt yn mesur hyd at 325.5 m o uchder, sydd i’w gosod tua 36 km allan i’r môr i’r de orllewin o Sir Benfro, De Cymru ynghyd â cheblau trawsyrru ar y môr ac ar y tir a gwaith ategol (y Prosiect).

Bydd y Generaduron Tyrbin Gwynt yn cael eu hangori i wely’r môr drwy naill ai systemau angori â thensiwn neu systemau crog. Mae’r ardal arfaethedig ar y môr lle bydd y tyrbinau gwynt arnofiol yn cael eu lleoli yn ardal o tua 45 km². Bydd cebl allforio ar y môr tua 55 km o hyd yn cludo ynni o ardal yr aráe i’r lanfa yn Freshwater West. Bydd tua 7.1 km o gebl trawsyrru ar y tir wedi’i gladdu o’r fan hon yn cysylltu ag is-orsaf newydd ar y tir, tua 1.5 km i’r de o Orsaf Bŵer Penfro, lle bydd yn cysylltu â rhwydwaith Trosglwyddo Trydan y Grid Cenedlaethol. Dangosir lleoliad y Prosiect arfaethedig ar Gynllun Lleoliad o’r Safle sy’n rhan o ddogfennau’r cais sydd ar gael i’w harchwilio yn y lleoliadau a nodir yn y tabl isod. 

Mae cais ar wahân o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 wedi cael ei wneud hefyd i Dîm Trwyddedau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol ar gyfer y gwaith i adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r orsaf gynhyrchu alltraeth.

Mae gan broses Adran 36 a phroses y Drwydded Forol wahanol gamau a gofynion statudol, ac maent yn cael eu cyflawni gan wahanol sefydliadau.

Mae’r Prosiect arfaethedig yn cael ei ystyried yn ddatblygiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol dan Reoliadau Gwaith Trydan (Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2017 (Rheoliadau EIA 2017) a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007, ac felly aseswyd ei effaith ar yr amgylchedd. 

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad o dan Reoliad 39 Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol 2017 sy’n cadarnhau nad oes angen cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â chais Adran 36, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol mewn perthynas â’r cais am Drwydded Forol. Cynhyrchwyd Datganiad Amgylcheddol i gyd-fynd â’r cais am Drwydded Forol, ac mae’n cynnwys manylion y cynnig ac yn cyflwyno asesiad o’r effeithiau amgylcheddol.

Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau ar effeithiau amgylcheddol y prosiect i Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o’r cais am drwydded forol.

Manylion Cyswllt Cyfoeth Naturiol Cymru: marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae copïau o’r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill sy’n ofynnol o dan Reoliadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gael yng nghofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd ar-lein ymahttps://publicregister.naturalresources.wales/

Mae’r Ymgeisydd wedi darparu copïau o ddogfennau’r cais, gan gynnwys Cynllun Lleoliad Safle (Ffigur 1.1Cyfrol 5, Datganiad Amgylcheddol Llŷr) sy’n dangos lleoliad y Prosiect a’r Amgylcheddol, ar wefan y prosiect www.llyrwind.com.  Yn ogystal, gallwch archwilio’r copïau am ddim rhwng Tachwedd 28, 2024 a Mawrth 28, 2025 yn y lleoliadau canlynol ac yn ystod yr oriau canlynol:

 

Lleoliad

Oriau Agor

Cyngor Sir Penfro

Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Glan yr Afon

Oddi ar Sgwâr Swan

Hwlffordd

Sir Benfro SA61 2AN

 

Llyfrgell Doc Penfro

Stryd y Dŵr

Doc Penfro, SA72 6DW

Dydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn 10:00 – 17:00

Dydd Mawrth 10:00-17:00

 

 

Dydd Llun, dydd Iau, dydd Gwener 10:00 – 17:00

Dydd Mercher 10:00 – 18:30

Dydd Sadwrn 10:00-12:30

Mae copïau USB ar gael os anfonwch gais drwy e-bost at Marc Murray, Llŷr Floating Wind Limited marc.murray@ciercoenergy.com. Oherwydd maint y dogfennau, gellir codi tâl copïo rhesymol o hyd at £2500 am atgynhyrchu unrhyw gopïau caled o’r Datganiad Amgylcheddol llawn gan gynnwys ffigurau ac atodiadau technegol (hyd at £250 am Gyfrol 1 – Penodau’r Datganiad Amgylcheddol yn unig).

Bydd y dogfennau sy’n ymwneud â’r cais Adran 36 hefyd yn cael eu cyhoeddi i borth gwaith achos cynllunio Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW): https://planningcasework.service.gov.wales/ - chwiliwch am 01352

Dylai unrhyw rai sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais Adran 36, anfon e-bost i PEDW.Seilwaith@llyw.cymru neu drwy’r post at Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.  RHAID i unrhyw ymatebion neu sylwadau am y cais (i) ddod i law Gweinidogion Cymru ar neu cyn 28 Mawrth 2025, (ii) cael eu cyflwyno’n ysgrifenedig, (iii) nodi sail yr ymateb neu’r gynrychiolaeth, (iv) nodi pwy sy’n gwneud yr ymateb neu’r sylw, a (v) rhoi cyfeiriad ar gyfer anfon gohebiaeth sy’n ymwneud â’r ymateb neu’r gynrychiolaeth.

Bydd sylwadau’n cael eu gwneud yn gyhoeddus. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd perthnasol i gael gwybodaeth am sut bydd eich data’n cael eu trin:  https://www.llyw.cymru/gwaith-achos-cynllunio-hysbysiad-preifatrwydd

Ar ôl i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau fynd heibio, bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn penodi Arolygydd Cynllunio i benderfynu sut y bydd y cais yn cael ei archwilio. Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn ysgrifennu at bob parti sydd wedi cyflwyno sylwadau i gadarnhau’r camau nesaf. Bydd hysbysiad Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru hefyd yn cael ei gyhoeddi i’r porth gwaith achos cynllunio.